Mae dwsinau o bobol wedi marw ar ôl i storm bwerus daro Japan dros y penwythnos.
Daeth Teiffŵn Hagibis â chawodydd trymion a gwyntoedd cryfion ar ddydd Sadwrn (Hydref 13), gan adael miloedd o gartrefi ar brif ynys y wlad naill ai heb drydan neu wedi eu difrodi.
Mae’r awdurdodau hefyd yn rhybuddio bod llithriadau mwd yn dal i fod yn bosib, wrth i ragolygon y tywydd addo rhagor o gawodydd mewn rhai ardaloedd heddiw (dydd Llun, Hydref 14).
Yn ôl y gwasanaeth newyddion, Kyodo News, mae 36 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r tywydd garw, ac mae 16 yn dal i fod ar goll.
Y cyfrif swyddogol gan asiantaeth y gwasanaethau brys yw 19 yn farw ac 13 ar goll.
Cwpan y Byd
Mae llawer o Gymry wedi teithio i Japan er mwyn dilyn y crysau cochion yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.
Bu’n rhaid i drefnwyr y gystadleuaeth ganslo dwy gêm yr oedd disgwyl iddyn nhw gael eu chwarae ddydd Sadwrn (Hydref 13), sef y rhai rhwng Lloegr a Ffrainc, a Seland Newydd a’r Eidal.
Fe aeth gêm Cymru v Wrwgwái yn ei blaen yn ddirwystr ddydd Sul.
Ar y dydd Sadwrn hefyd, fe alwodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar y Cymry yn Japan i gadw’n ddiogel, gan eu cynghori i “osgoi unrhyw deithio di-angen”.
Rydym yn gobeithio fod pawb yn Japan yn parhau i fod yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn o dywydd eithafol.
Rydym yn annog pawb i osgoi unrhyw deithio di-angen ac yn eu cynghori i ddilyn cyfarwyddyd gan yr awdurdodau lleol. #TyphoonHagibisJapan
— Mark Drakeford (@fmwales) October 12, 2019