Mae adroddiadau bod 19 o bobol wedi’u lladd yn dilyn y teiffŵn yn Japan, a bod 16 o bobol ar goll yn sgil y llifogydd yno.

Mae teiffŵn Hagibis bellach wedi taro’r brifddinas Tokyo a’r cyffiniau – y gwaethaf ers chwe degawd, yn ôl arbenigwyr.

Fe fu rhybuddion am law trwm hefyd yn Gunma, Saitama a Kanagawa, yn ogystal â Fukushima a Miyagi.

Mae daeargryn 5.3 ar raddfa Richter hefyd wedi taro’r wlad, a hwnnw yn ardal Chiba ger Tokyo.

Ar eu huchaf, mae’r gwyntoedd wedi cyrraedd cyflymdra o 90 milltir yr awr mewn rhai ardaloedd.

Mae cannoedd o filoedd o bobol wedi ffoi o’u cartrefi, a channoedd o filoedd yn rhagor wedi colli eu cyflenwadau trydan.

Effaith ar wasanaethau

Mae’r teiffŵn wedi cael effaith sylweddol ar wasanaethau yn y wlad, gyda theithiau awyr a threnau wedi cael eu canslo.

Mae rhybudd i bobol aros yn eu cartrefi oni bai bod rhaid mynd allan.

Mae siopau yn Tokyo hefyd ynghau, a gemau Cwpan Rygbi’r Byd wedi’u heffeithio.

Cafodd y gemau rhwng Lloegr a Ffrainc, a Seland Newydd a’r Eidal eu canslo ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 12), ac mae’r gêm rhwng Namibia a Chanada wedi’i chanslo heddiw (dydd Sul, Hydref 13).