Cafodd merch ei lladd ar ôl i eliffant sathru arni sawl gwaith yn Fietnam.

Mae’n debyg bod y ferch 11 oed wedi ceisio bwydo’r eliffant ar ôl iddi fynd i ardd canolfan ddiwylliant gyda’i ffrindiau.

Yn ôl yr heddlu, roedd yr eliffant wedi codi’r ferch gyda’i drwnc, ei thaflu i’r ddaear a sathru arni sawl gwaith.  Bu farw’r ferch ar y safle.

Dywedodd yr heddlu bod yr eliffant yn berchen i syrcas oedd ar daith o Hanoi. Roedd yr eliffant yn cael ei gadw mewn gardd wedi ei ffensio yn y ganolfan pan nad oedd yn perfformio.