Mae protestwyr yn Hong Kong wedi dinistrio gorsaf danddaearol, gan dorri camerâu cylch-cyfyng ac eitemau technolegol eraill, wrth iddyn nhw barhau i brotestio yn erbyn y llywodraeth.

Cafodd sawl sensor tocynnau eu dinistrio â morthwyl yng ngorsaf Shatin, a chafodd sgriniau eu torri wrth i’r protestwyr guddio’u hwynebau.

Cyrhaeddodd yr heddlu gyda’r brotest ar ei hanterth, ac fe geision nhw atal rhagor o bobol rhag mynd i mewn i’r orsaf.

Dywed y protestwyr, sydd wedi bod wrthi ers pedwar mis, fod angen troi’n dreisgar er mwyn sicrhau bod y llywodraeth yn talu sylw i’w cwynion.

Bu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio nwy ddagrau a bwledi rwber i’w tawelu yn ystod eu protest ddiweddaraf, wrth iddyn nhw daflu bomiau petrol tuag at yr heddlu a chynnau tanau ar y strydoedd.

Mae Carrie Lam, prif weithredwr Hong Kong, eisoes wedi cytuno i ddiddymu deddfwriaeth ddadleuol ynghylch estraddodi pobol, un o’r prif resymau am y protestiadau.

Tarfu ar y llywodraeth

Dywed y protestwyr fod Carrie Lam a’i llywodraeth yn tanseilio grym Hong Kong fel gwlad annibynnol, ac yn torri amodau’r cytundeb pan ddaeth yn wlad annibynnol yn 1997.

Mae’r brotest yn destun embras i Tsieina ar drothwy dathliadau ar Hydref 1 o 70 mlynedd mewn grym i’r Blaid Gomiwnyddol.

Mae’r protestiadau diweddaraf wedi effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda theithiau awyr a threnau’n cael eu had-drefnu.