Mae rhagor o ffoaduriaid wedi cael eu hachub ar ôl ceisio croesi’r Sianel o Calais i Dover.

Cawson nhw eu gweld fore heddiw (dydd Llun, Medi 16) yn cael eu cludo i’r lan gan yr awdurdodau.

Mae lle i gredu mai grŵp o 12 o bobol oedden nhw, a’r mwyafrif yn ddynion.

Cawson nhw eu cludo oddi yno mewn fan gan swyddogion mewnfudo.

Mewn digwyddiad arall, cafodd naw o ffoaduriaid, gan gynnwys dynes a dau o blant, eu hachub gan awdurdodau Ffrainc am oddeutu 5 o’r gloch y bore pan aeth eu cwch i drafferthion.

Maen nhw bellach yng ngofal yr awdurdodau yn Boulogne.

Am oddeutu 4.30yb, cafodd wyth dyn, dynes a dau o blant eu hachub ar ôl cael eu darganfod ar gwch.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n dod o Irac ac Iran.

Daw’r tri digwyddiad ar ôl sawl digwyddiad tebyg dros y penwythnos.

Cafodd dau ddyn, o Iran ac Affganistan, eu hachub ar ôl ceisio cyrraedd y lan mewn caiac.

A chafodd cwch yn cludo 24 o ffoaduriaid ei gipio gan yr awdurdodau, a chafwyd hyd i gwch arall yn cludo chwech o bobol.

Roedd trydydd cwch yn cludo saith dyn a dwy ddynes. Mae lle i gredu eu bod nhw’n dod o Iran, Affganistan, Twrci a Mali.

Mae’r holl ffoaduriaid bellach yng ngofal yr awdurdodau.

Rhybudd am ragor o achosion

Mae rhybudd gan yr awdurdodau fod nifer y ffoaduriaid sy’n ceisio cyrraedd y lan yn Ewrop ar gynnydd.

Cafodd o leiaf 86 o bobol eu hachub ar Fedi 10, gyda rhai yn llwyddo i gyrraedd y traeth cyn cael eu dal gan yr awdurdodau.

Ac mae lle i gredu bod disgwyl rhagor o achosion wrth i gampfa yn Dunkirk gau.

Mae hyd at 1,000 o ffoaduriaid yn y gampfa honno, ac mae pryderon y gallen nhw gael eu gorfodi i geisio cyrraedd y lan mewn gwlad arall.

Mae’r heddlu wedi bod yn ceisio symud nifer o ffoaduriaid i ffwrdd o wersyll ger Calais, gan ddefnyddio nwy ddagrau i’w tawelu.

Mae nifer o bobol wedi cael eu harestio’n ddiweddar ar amheuaeth o smyglo pobol.

Mae Llywodraeth Prydain wrthi’n llunio cynllun gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.