Fe fydd Robert Mugabe yn cael ei gladdu yn Zimbabwe ddydd Sul nesaf (Medi 15), yn ôl adroddiadau.

Bu farw cyn-arweinydd y wlad yn Singapôr yn 95 oed ddydd Gwener.

Daeth yn arweinydd y wlad ar ôl iddi ennill ei hannibyniaeth yn 1980, ac roedd e mewn grym tan iddo gael ei orfodi i gamu o’r neilltu yn 2017.

Bydd ei gorff yn cael ei gludo i Zimbabwe ddydd Mercher a’r Arlywydd Emmerson Mnangagwa ym maes awyr Harare i’w dderbyn, yn ôl papur newydd y Sunday Mail.

Bydd ei gorff wedyn yn cael ei gludo i’w gartref yng nghefn gwlad cyn cael ei osod mewn stadiwm i’r cyhoedd gael ei weld.

Mae disgwyl wythnos o alaru cyn ei angladd.