Mae arlywydd Indonesia wedi cyhoeddi y bydd prifddinas y wlad yn symud o Jakarta i safle ar ynys Borneo.

Dywed Joko Widodo fod y llywodraeth wedi dewis talaith Dwyrain Kalimantan, sydd yn rhan Indonesia o’r ynys a gaiff ei rhannu gyda Malaysia a Brunei, ar gyfer adeiladu’r brifddinas newydd.

Mae trafodaethau wedi bod yn digwydd ers degawdau am brifddinas newydd i’r wlad oherwydd y gorboblogi a’r llygredd yn Jakarta ar Java, ynys fwyaf poblog y wlad.

Mae 10 miliwn o bobl yn byw ym metropolis Jakarta, ac 20 miliwn arall ar ei chyrion.