Mae dyn sy’n cael ei gyhuddo o ymosod ar fosg yn ninas Oslo, yn ogystal â lladd ei hanner chwaer mewn digwyddiad ar wahân, wedi ymddangos gerbron y llys heddiw (dydd Llun, Awst 12).

Roedd cleisiau a chrafiadau i’w gweld yn glir ar wyneb Philip Manshaus, 21, pan ymddangosodd o flaen ei well am y tro cyntaf ers iddo gael ei arestio ddydd Sadwrn (Awst 10) ar ôl cael mynediad i fosg yn ardal Baerum ym mhrifddinas Norwy.

Yn ôl yr heddlu, fe glywyd gwn yn tanio sawl gwaith y tu fewn i Ganolfan Fwslimaidd Al-Noor, lle’r oedd tri dyn arall yn paratoi ar gyfer gwasanaeth ar y Sul.

Cafodd un person ei anafu cyn i bobol o fewn y mosg ddal y saethwr honedig ar y llawr wrth iddyn nhw aros i’r heddlu gyrraedd.

Fe arweiniodd yr heddlu wedyn gyrch ar gartref Philip Manshaus, lle y daethon nhw o hyd i’w hanner chwaer, 17.

Mae’r heddlu wedi ei gyhuddo o’i lladd, ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi unrhyw fanylion pellach.

Mae’n debyg i’r awdurdodau yn Norwy fod yn ymwybodol o’r saethwr honedig ers tua blwyddyn, ond doedd ganddyn nhw ddim gwybodaeth gadarn ynglŷn â bwriad ganddo i gyflawni unrhyw ymosodiadau, medden nhw.