Mae ymchwiliad ffederal ar y gweill i farwolaeth Jeffrey Epstein mewn carchar yn yr Unol Daleithiau.

Mae lle i gredu ei fod e wedi lladd ei hun yn ei gell.

Roedd wedi’i gyhuddo o fod yn gyfrifol am gylch o droseddwyr rhyw oedd wedi ymosod yn rhywiol ar ddwsinau o ferched ifainc.

Cafwyd e’n anymwybodol yn ei gell fore ddoe (dydd Sadwrn, Awst 10), yn ôl Swyddfa Ffederal y Carchardai, ac fe fu farw yn yr ysbyty yn Efrog Newydd yn ddiweddarach.

Roedd swyddogion wedi bod yn cadw llygad arno ar ôl i gleisiau gael eu gweld ar ei wddf, ond daeth y goruchwylio hwnnw i ben ddiwedd mis diwethaf.

Mae’r Twrnai Cyffredinol William Barr yn galw ar yr FBI a’r Adran Gyfiawnder i gynnal ymchwiliad, gan fod “cwestiynau difrifol i’w hateb”.

Roedd Jeffrey Epstein yn wynebu hyd at 45 o flynyddoedd dan glo, ond roedd yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.