Mae cannoedd o ymwelwyr a myfyrwyr Indiaidd wedi cael gorchymyn i adael Kashmir yn dilyn pryderon am ddiogelwch yn y rhanbarth.
Yn eu plith mae Hindwiaid sydd ar bererindod i ogof Himalayaidd.
Mae cannoedd o fyfyrwyr Indiaidd hefyd wedi cael eu cludo allan o’r rhanbarth.
Mae’r awdurdodau’n dweud bod cudd-wybodaeth yn awgrymu bygythiad brawychol i’r Hindwiaid ar bererindod.
Mae cryn densiynau yn y rhanbarth eto ers i lywodraeth India gyhoeddi bod miloedd o filwyr am fynd i mewn i Kashmir.
Mae pryderon fod y llywodraeth am ddileu deddf sy’n atal Hindwiaid rhag prynu eiddo yn y rhanbarth lle mae trwch y boblogaeth yn Fwslimiaid.