Llosgfynydd Eyjafjallajokull
Mae cynlluniau argyfwng yn cael eu trafod yng Ngwlad yr Iâ ar hyn o bryd, wrth bryderon gynyddu bod llosgfynydd ar fin ffrwydro.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai ffrwydrad gan losgfynydd Katla yng Ngwlad yr Iâ achosi hyd yn oed mwy o broblemau na’r un a fu’n tarfu ar deithiau dramor y llynedd.
Mae gwyddonwyr yn cadw llygad ar y gweithgarwch folcanig Katla ar hyn o bryd, gan fod maint y llosgfynydd, ac anferthedd ei siambr magma, yn golygu y gallai ffrwydrad ganddi achosi llawer iawn mwy o broblemau nag a welwyd pan ffrwydrodd llosgfynydd Eyjafjallajokul y llynedd.
Cafodd awyrennau eu hatal rhag hedfan o fewn Ewrop am gyfnod y llynedd pan ffrwydrodd llosgfynydd Eyjafjallajokul, gan gostio bron i £1.3 biliwn i gwmniau awyrennau.
Mae llosgfynydd Katla yn gorwedd ar ymylon deheuol Gwlad yr Iâ, gyda nifer o bentrefi a threfi wedi eu sefydlu ar lethrau’r llosgfynydd.
Dydi llosgfynydd Katla ddim wedi ffrwydro ers 1918, er bod y llosgfynydd yn arfer ffrwydro ddwywaith bob canrif yn ôl cofnodion hanesyddol. Y tro diwethaf iddi ffrwydro fe fu gymaint o lwch yn yr awyr nes bod mis o dywyllwch wedi disgyn ar Wlad yr Iâ, gan effeithio ar gnydau ac anifeiliaid y wlad.
Bu gwres eithriadol y llosgfynydd hefyd yn gyfrifol am doddi peth o’r rhew a fu’n gorchuddio’r llosgfynydd, ac fe redodd y dŵr i lawr dros y tir islaw ac achosi llifogydd dros gannoedd o erwau o dir amaethyddol.
Daeargrynfeydd yn codi cwestiynau
Mae nifer o ddaeargrynfeydd bach wedi cael eu cofnodi o gwmpas Katla yn ddiweddar, sy’n arwydd cryf fod y llosgfynydd ar fin ffrwydro, yn ôl gwyddonwyr.
Mae cyfres o ddaeargrynfeydd wedi cael eu cofnodi yn mesur 3 ar y raddfa richter, ond yn fwy diweddar, fe gofnodwyd daeargryn oedd yn mesur 4 ar y raddfa richter – sy’n awgrymu fod y gweithgarwch folcanig yn cynyddu.
Mae cynllun i symud pobol o’u cartrefi wedi cael ei drafod, gyda lloches dros dro wedi ei baratoi mewn argyfwng. Ond mae sawl un yn poeni y bydd gan bobol lai nag awr i ddianc unwaith i’r llosgfynydd ddechrau ffrwydro.