Mae Donald Trump wedi beirniadu llysgennad gwledydd Prydain yn Washington ar ôl i wybodaeth gyfrinachol gael ei datgelu.

Yn ôl Arlywydd yr Unol Daleithiau, dyw Syr Kim Darroch “ddim wedi gwneud gwaith da o ran gwasanaethu’r Deyrnas Gyfunol”, cyn ychwanegu nad yw ei weinyddiaeth yn “ffrindiau mawr” â’r llysgennad.

Mae ymchwiliad swyddogol ar y gweill ar ôl i negeseuon rhwng Syr Kim Darroch a Llywodraeth Prydain gael eu rhyddhau i’r wasg.

Mae’r negeseuon, a ddaeth i law papur The Mail on Sunday, yn cynnwys manylion ynglŷn â gweinyddiaeth Donald Trump o 2017 tan y presennol.

Maen nhw’n awgrymu bod angen “gwneud eich pwyntiau yn syml ac yn uniongyrchol” wrth gyfathrebu â’r Arlywydd, gyda Syr Kim Darroch hefyd yn feirniadol o effeithlonrwydd y weinyddiaeth wrth weithredu polisïau.

Yn dilyn y sylwadau, mae’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Liam Fox, wedi disgrifio’r digwyddiad fel un “amhroffesiynol ac anfoesol”.

Ar y llaw arall, mae’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, wedi dweud mai “barn bersonol” Syr Kim Darroch sy’n cael eu mynegi yn y negeseuon, ac nid barn Llywodraeth Prydain.