Mae trigolion Gwlad Groeg yn pleidleisio yn etholiad cynta’r wlad ers iddi gael ei hachub yn economaidd yn ystod argyfwng 2016.

Mae’r etholiad yn cael ei gynnal dri mis yn gynt na’r disgwyl, ar ôl i Alexis Tsipras, y prif weinidog, golli yn etholiadau lleol y wlad ac yn yr etholiadau Ewropeaidd dros y ddeufis diwethaf.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu y bydd trigolion y wlad yn mynd yn groes i’r arfer Ewropeaidd o ethol pleidiau poblyddol, ac mai’r ffefryn i ennill yw Kyriakos Mitsotakis, arweinydd y blaid Democratiaeth Newydd.

Ond mae’r prif weinidog yn mynnu y gall e a’i blaid Syriza wella cyflwr economaidd y wlad, a hynny ar ôl ennill y ddau etholiad diwethaf gydag addewid o dynnu’r wlad allan o fesurau a gafodd eu cyflwyno pan gafodd y wlad gymorth ariannol.

Ers y ddau etholiad, fe fu’n rhaid iddo gefnu ar ei addewid wrth i’r trafferthion ariannol barhau.

Mae angen o leiaf 151 o seddi arno fe a’i blaid i allu llywodraethu heb glymblaid, ac fe allai fod yn ddibynnol ar nifer o bleidiau bychain am gefnogaeth.