Mae pennaeth byddin Iran yn dweud y gall y wlad saethu rhagor o ddronau’r Unol Daleithiau.

Daeth rhybudd yr ol-Lyngesydd Hossein Khanzadi yn ystod cyfarfod o swyddogion amddiffyn Iran a dywedodd y gall Iran ymosod eto – “ac mae’r gelyn yn gwybod hynny.”

Fe fu Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ar fin lansio ymosodiadau ar Iran ar ôl i Tehran saethu eu drôn werth £78m ddydd Iau (Mehefin 20).

Roedd Iran yn honni fod y drôn wedi hedfan mewn lleoliad gwaharddedig, ond mae’r Unol Daleithiau yn gwadu hyn.

Sancsiynau pellach

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Mike Pompeo, wedi cyrraedd Sawdi Arabia heddiw (Dydd Llun, Mehefin 24) i gyfarfod a’r Tywysog Mohammed bin Salman i drafod y tensiynau cynyddol gydag Iran.

Dywedodd Mike Pompeo cyn gadael y byddai’n siarad â swyddogion yng Ngheufor Persia yn ogystal ag Asia ac Ewrop wrth iddo geisio adeiladu clymblaid ryngwladol yn erbyn Iran.

Byddai’r Unol Daleithiau yn barod i drafod ag Iran, meddai, ond dywedodd y bydd sancsiynau newydd gan yr Unol Daleithiau yn cael eu cyhoeddi heddiw.