Mae’r awdurdodau yn Ne America yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod pam fod degau o filiynau o bobol wedi colli eu cyflenwad trydan yn yr Ariannin, Wrwgwai a Paragwai ddoe (Dydd Sul, Mehefin 16).
Wrth i’r pŵer ddychwelyd, mae arbenigwyr yn dal i geisio darganfod beth oedd wedi achosi’r broblem.
Mae Arlywydd yr Ariannin, Mauricio Macri, wedi rhoi addewid y bydd ymchwiliad manwl i’r digwyddiad “digynsail”.
Yn dilyn y digwyddiad mae cwestiynau wedi cael eu codi ynghylch methiannau yn y grid yn Ne America sy’n cysylltu ei wledydd mwyaf.
Fe fydd canlyniadau’r ymchwiliad ar gael ymhen 10 i 15 diwrnod a does manylion hyd yn hyn ynglŷn ag effaith economaidd y digwyddiad.
Nid oedd gwledydd cyfagos Brasil a Chile wedi cael eu heffeithio.