Mae cyfreithiwr ar ran newyddiadurwr yn Rwsia yn cyhuddo’r heddlu o ymosod arno.
Cafodd Ivan Golunov ei arestio ddydd Iau (Mehefin 6) ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau.
Mae’r heddlu’n gwadu iddyn nhw ymosod arno yn y ddalfa.
Yn ôl ei gyfreithwyr, mae’n bosib ei fod e wedi dioddef cyfergyd ac wedi torri sawl asen.
Fe ddaeth i’r amlwg yn yr ysbyty ei fod e wedi cael briwiau ar ei gefn a chleisiau o amgylch ei lygad.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yn ei gartref erbyn hyn.
Mae ei gyfreithwyr yn gofyn i’r awdurdodau gynnal ymchwiliad.