Bu farw’r gyrrwr Fformiwla 1, Niki Lauda, yn 70 oed.
Fe ddaeth yn bencampwr byd yn y gamp gyda thimau Ferrari a McLaren.
Mae teyrngedau lu yn cael eu rhoi i’r gyrrwr sy’n cael ei alw’n “arwr” gan Jenson Button o wledydd Prydain.
Gyrfa 1949 – 2019F
Fe fu Niki Lauda yn agos iawn i farw yn ei gar Ferrari yn 1976 pan gafodd ddamwain ar gwrs y Nurburgring yn yr Almaen.
Fe ddaeth yn ôl o’r ddamwain honno gydag llosgiadau difrifol, ond fe lwyddodd y flwyddyn ganlynol i orffen yn ail yn y bencampwriaeth tu ôl i James Hunt.
Cafodd yr elyniaeth rhwng Niki Lauda a James Hunt ei throi yn ffilm yn 2013 gyda Daniel Bruhl yn y brif ran.
Enillodd dair pencampwriaeth byd cyn mynd ymlaen i fod yn ffigwr blaenllaw yn y diwydiant awyrennau.
Yn 1979 aeth ati i sefydlu ei gwmni awyrennau ei hun – Lauda Air.
Dychwelodd i fyd F1 am y trydydd tro yn 1984 gyda chwmni McLaren cyn ymddeol am y tro olaf.
Dros y degawdau diwethaf fe gafod Niki Lauda drawsblaniad aren ddwywaith, gan dderbyn organ gan ei frawd yn 1997 a gan ei gariad yn 2005
Fe gafodd drawsblaniad ysgyfant y llynedd yn Ysbyty Cyffredinol Fienna yn yr Awstria.