Mae Imran Khan, prif weinidog Pacistan, wedi condemnio’r hyn mae e’n ei alw’n ymosodiad brawychol ar westy yn y wlad.
Cafodd un swyddog diogelwch ei ladd yn y digwyddiad yn Gwadar, ond cafodd yr holl westeion eu symud yn ddiogel.
Mae Imran Khan wedi canmol ymateb y lluoedd diogelwch am achub bywydau cynifer o bobol yng ngwesty’r Pearl Continent.
Cafodd pedwar o ymosodwyr honedig eu lladd.
Baluch sydd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.