Mae dyn busnes, 44, wedi pledio’n euog o rannu fideo byw o saethwr Christchurch yn Seland Newydd wrth iddo ddechrau lladd 50 o bobol mewn dau fosg fis diwethaf.
Fe gyfaddefodd Philip Arps i ddau gyhuddiad o rannu’r fideo ac fe fydd yn cael ei gadw yn y carchar nes iddo gael ei ddedfrydu ar Fehefin 14.
Mae’n wynebu dedfryd o hyd at 14 mlynedd yn y carchar.
Yn ôl erlynwyr, roedd Philip Arps wedi anfon y fideo at berson anhysbys.
Dywed hefyd ei fod wedyn wedi pasio’r fideo 17 munud ymlaen at 30 o bobol eraill.
Mae prif sensor Seland Newydd, David Shanks wedi gwahardd y fideo a’r maniffesto gafodd ei ysgrifennu gan y dyn sydd wedi ei gyhuddo o’r ymosodiad, gan ei wneud yn anghyfreithlon i wylio, i fod ym meddiant neu i rannu’r fideo.