Bu farw o leiaf dau o bobol gan gynnwys hunan-fomiwr y tu allan i weinyddiaeth telegyfathrebu prifddinas Affganistan, Kabul.
Dywedodd pennaeth yr heddlu yno Sayed Mohammad Roshandil fod yr hunan-fomiwr wedi llwyddo i alluogi ymosodwyr eraill i gael mynediad i’r adeilad.
Deallir fod o leiaf dau o bobl wedi’u lladd yn yr ymosodiad a chwech wedi eu hanafu – yn cynnwys tair dynes – ac wedi eu cludo i’r ysbyty.
Nid oes un grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad eto ond maen hysbys fod y Taliban ac Islamic State yn weithredol yn yr ardal ac wedi honni maen nhw oedd yn gyfrifol am ymosodiadau blaenorol yn Kabul.
Dywedodd Nasart Rahimi ar ran Llywodraeth Affganistan fod y digwyddiad wedi dod i ben “wedi i bob un o’r ymosodwyr gael eu saethu a’u lladd gan luoedd diogelwch Affgan.”
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ddiwrnod wedi i drafodaethau heddwch yn Qatar gael eu gohirio.
Os bydde nhw wedi cael eu cynnal, dyma fydde’r tro cyntaf i’r Taliban a swyddogion llywodraeth Kabul i eistedd gyda’i gilydd i drafod dod a diwedd i’r rhyfel yn Affganistan a lluoedd America yn tynnu’n ôl.
Ychwanegodd Mr Rahimi fod swyddogion diogelwch wedi atal pob un ffordd yn agos at safle’r ymosodiad a’u bod wedi lladd pedwar o hunan-fomiwyr cyn iddyn nhw fedru cyrraedd eu targed sef y swyddfa bost gerllaw.