Mae Eifftwyr yn pleidleisio mewn refferendwm fyddai’n caniatau i’r Arlywydd Abdel-Fattah el-Sissi aros mewn grym hyd 2030.

Dechreuodd y tridiau a ganiatawyd ar gyfer y bleidlais am 9yb heddiw ar newidiadau a fyddai hefyd yn cadarnhau rôl y fyddin mewn gwleidyddiaeth.

Fe wnaeth y Senedd, oedd yn llawn i’r ymylon gyda chefnogwyr Mr el-Sissi, roi eu cefnogaeth llethol i’r newidiadau ddydd Mawrth.

Mae pleidiau eraill wedi galw ar i’r cyhoedd wrthod y newidiadau sy’n cael eu hystyried gan lawer fel cam yn ôl tuag at awdurdodiaeth – wyth mlynedd wedi gwrthryfel o blaid democratiaeth.