Mae arlywydd Indonesia, Joko Widodo, wedi ennill ail dymor pum mlynedd yn arweinydd y wlad, yn ôl canlyniadau answyddogol yr etholiad yno.

Yn ôl log pleidleisiau o pump grŵp annibynnol, mae Joko Widodo yn glir ar y blaen i’w wrthwynebydd, Prabowo Subianto, a fu’n gyn-bennaeth y fyddin.

Mae’r ffordd yma o gyfrif pleidleisiau wedi bod yn un ddibynadwy mewn etholiadau yno yn y gorffennol.

Gyda 50% i 80% o orsafoedd pleidleisio wedi cael eu cyfrif, mae’r sefydliadau arolygu yn dangos bod Joko Widodo a 55% o’r bleidlais.

Mae 193 miliwn o bobl yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad mewn mwy nag 800,000 o orsafoedd pleidleisio

Bu o gwmpas 17 miliwn o bobl yn ymwneud â sicrhau bod arolygon yn rhedeg yn llyfn a bu rhaid defnyddio hofrenyddion, cychod a cheffylau i sicrhau bod pobol ym mhob cornel o’r wlad yn cael pleidlais.