Gallai Slofacia ethol merch yn arlywydd am y tro cyntaf yn ei hanes, wrth i bleidleiswyr baratoi i bleidleisio yn ail rownd etholiad arlywyddol y wlad.

Roedd Zuzana Caputova, sy’n ymgyrchydd amgylcheddol, ar y blaen ar ôl y rownd gyntaf wrth iddi herio Maros Sefcovic, dirprwy lywydd Comisiwn Ewrop, am y swydd.

Roedd ganddi 40.6% o’r bleidlais ar ddiwedd y rownd gyntaf, tra bod gan Maros Sefcovic 18.7% yn unig.

Maen nhw’n herio’i gilydd i fod y pumed arlywydd yn hanes y wlad ers iddi ennill ei hannibyniaeth yn 1993.

Mae Andrej Kiska, yr arlywydd presennol, wedi penderfynu peidio â sefyll am ail dymor.