Mae tîm o wyddonwyr o’r Unol Daleithiau yn teithio i Everest i astudio effaith llygredd ar fynyddoedd yr Himalaya a rhewlifoedd sydd yn meddalu oherwydd cynhesu byd eang.

O dan arweiniad John All o Brifysgol Gorllewin Washington, mae’r tîm am dreulio’r ddeufis nesa’ yn yr ardal yn casglu samplau ac yn astudio’r rhew, eira a llystyfiant.

Ym mis Mai, fe fydd y tîm yn ceisio dringo Everest a’i chwaer-fynydd, Lhotse.

Y bwriad yw rhannu’r samplau a’r data gyda phrifysgolion lleol ac asiantaethau’r Llywodraeth yn Nepal i gymharu’r ymchwil wnaeth John All gasglu yno yn 2009.

Blwyddyn ar ôl ei daith yn Everest y flwyddyn honno, fe lwyddodd i gyrraedd y copa, ond cafodd taith arall yn 2014 ei dorri’n fyr ar ôl i 16 o dywyson Sherpa Nepali gael eu lladd mewn cwymp eira.