Mae arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi gosod sancsiynau newydd ar Iran yn dilyn ymweliad yr Ysgrifennydd Gwladol, Mike Pompeo, â Libanus.
Mae’r sancsiynau’n targedu 31 o wyddonwyr, technegwyr, a chwmnïau yn y wlad sy’n ymwneud ag ymchwil a datblygu niwclear a thaflegrau.
Maen nhw’n gysylltiedig â Sefydliad Arloesi ac Ymchwil Amddiffyn Iran.
Mae America dan yr argraff fod grwp Hezbollah yn Libanus wedi dod dan ddylanwad drwg Iran, a dyna un rheawm troa gosbi’r wlad.