Mae dynes o Indonesia sydd wedi bod dan glo ers dwy flynedd a hanner ar amheuaeth o lofruddio hanner brawd Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea, wedi cael mynd yn rhydd – am y tro.

Roedd Siti Aisyah wedi’i chyhuddo o daenu gwenwyn nwy ar wyneb Kim Jong Nam ym maes awyr Kuala Lumpur ym mis Chwefror 2017.

Ond mae’r cyhuddiadau yn ei herbyn hi a Doan Thi Huong o Fietnam wedi’u gollwng ar gais erlynwyr.

Mae’n dweud ei bod hi “wedi synnu ond yn hapus”.

Mae posibilrwydd y gallai Siti Aisyah wynebu cyhuddiadau rywbryd eto, ond mae erlynwyr yn dweud nad oes cynlluniau o’r fath ar y gweill ar hyn o bryd.

Yn ôl y ddwy ddynes, roedden nhw o’r farn eu bod nhw’n cymryd rhan mewn rhaglen deledu realaeth pan ddaeth y cais i daenu’r asiant nwy ar wyneb Kim Jong Nam.

Ar y diwrnod y cafodd ei ladd, fe wnaeth pedwar o bobol eraill oedd o dan amheuaeth ffoi o’r wlad.

Mae llywodraeth Indonesia yn dweud mai lobïo parhaus ganddyn nhw sydd wedi arwain at ryddhau Siti Aisyah, a’i bod hi wedi cael ei “manipiwleiddio” gan awdurdodau Gogledd Corea.

Kim Jong Nam oedd mab hyna’r teulu sy’n rheoli Gogledd Corea.

Fe fu’n byw dramor ers blynyddoedd, ond roedd lle i gredu y gallai fod wedi cipio grym oddi ar Kim Jong Un, gyda rhai yn dadlau mai hynny oedd yn gyfrifol am ei lofruddiaeth.