Kalsang (llun o wefan Free Tibet)
Mae mynach wedi ei roi ei hun ar dân i brotestio yn erbyn rheolaeth China tros Tibet.

Dyma’r pumed achos o’i fath eleni a’r trydydd o fewn ychydig tros wythnos wrth i fynachod arwain y protestiadau yn erbyn China.

Yn ôl adroddiadau, sydd heb eu cadarnhau’n annibynnol, roedd heddlu wedi diffodd y fflamau ond does dim newyddion am gyflwr y mynach 17 oed, Kalsang.

‘Yr unig ffordd’

Yn ôl grŵp o’r enw Tibet Rydd yn Llundain, roedd y brotest yn arwydd fod mwy a mwy o bobol yn gweld mai dyma’r unig ffordd i ddangos eu gwrthwynebiad i reolaeth China tros Tibet.

Roedden nhw’n dweud bod y mynach yn dal llun o’i arweinydd ysbrydol, y Dalai Lama, pan gyneuodd y fflamau.

Roedd y Dalai Lama wedi dianc o Tibet yn 1959 yn ystod gwrthryfel yn erbyn China ac mae wedi parhau i ymgyrchu tros hunan lywodraeth i’w wlad.