Mae o leiaf 23 o bobol wedi’u lladd a nifer wedi’u hanafu ar ôl corwynt yn nhalaith Alabama yn yr Unol Daleithiau ddydd Sul (Mawrth 3).

Mae stormydd difrifol wedi difrodi carafanau a dymchwel coed gyda rhybuddion am dywydd garw yn Georgia, Florida a De Carolina.

Cafodd dwsinau o dimau achub eu hanfon i Lee County, yn Alabama, ar ôl i’r corwynt achosi difrod prynhawn dydd Sul. Bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r chwilio am oroeswyr nos Sul oherwydd yr amodau tywydd gwael a bydd yn ail-ddechrau bore ma.

Dywedodd Siryf Lee County, Jay Jones, ei fod yn disgwyl i nifer y meirw godi eto.