Mae ymsefydlwyr Iddewig, a’u cefnogwyr, yn cael eu hamau o roi mosg ar dân mewn pentref Arabaidd yng ngogledd Israel.

Mae graffiti ar y muriau yn awgrymu bod ymsefydlwyr ynghlwm wrth y difrod, yn ôl llefarydd yr heddlu Micky Rosenfeld.

Yn ôl y llefarydd, cafodd carped ei losgi a chafodd waliau eu difrodi yn y mosg yn Tuba-Zangria, sydd yn ardal Galilea. Mae Radio Israel hefyd yn honni bod llyfrau Koran hefyd wedi cael eu llosgi.

Ychydig wythnosau yn ôl, fe ddinistrwyd adeiladau mewn sefydliad anghyfreithlon ar y Lain Orllewinol gan y llywodraeth – digwyddiad a gafodd ei ddilyn gan dân mewn mosg arall.