Mae gweinyddiaeth amddiffyn Rwsia wedi rhyddhau fideo yn dangos droniau tanddwr niwclear newydd y wlad yn cael eu profi.

Fe gafodd y ffilm fer ei rhyddhau toc wedi i’r arlywydd Vladimir Putin gyhoeddi mewn darllediad i’r genedl fod yr arf newydd, Poseidon, ganddo.

Mae’n dangos y drôn yn cael ei lansio, ond dyw’r ffilm ddim yn dweud pryd, nac ymhle, y digwyddodd y prawf.

Mae Vladimir Putin yn dweud fod y profion wedi bod yn “llwyddiant mawr”, ac y bydd y llong danfor gyntaf a fydd yn gallu cario’r droniau hyn yn cael ei chomisiynu yn ddiweddarach eleni.