Mae naw o bobol wedi cael eu lladd yn ardal Kashmir yn India wrth i densiynau barhau i gynyddu ar ôl ymosodiad bom ddydd Iau diwethaf (Chwefror 15).

Aeth milwyr y Llywodraeth i amgylchynu pentref yn ne Pulwama ar ôl clywed bod eithafwyr yn cuddio yno.

Fe ddechreuodd yr eithafwyr saethu at y milwyr cyn iddynt ymateb gyda bwledi eu hunain.

Mae’r gwrthdaro wedi arwain at lofruddiaeth pedwar milwr, tri eithafwr, heddwas ac un dinesydd.

Cafodd un swyddog yr heddlu, un swyddog y fyddin, a tri milwr arall eu hanafu yn ystod y digwyddiad.

Mae hyn yn dilyn ymosodiad bom car ar y fyddin wnaeth ladd o leiaf 40 o filwyr ddydd Iau diwethaf.

Hwnnw yw’r ymosodiad gwaethaf yn erbyn byddin Llywodraeth India yn hanes Kashmir.

Mae Pacistan wedi rhybuddio India i beidio ei chysylltu â’r ymosodiad heb ymchwiliad, gan ddweud ei bod yn rhan “adnabyddus” o dactegau New Delhi i ddargyfeirio sylw byd-eang o droseddau hawliau dynol yn Kashmir.

Mae India a Phacistan yn rheoli rhannau o Kashmir, ond mae’r ddwy wlad yn ceisio hawlio’r rhanbarth yn ei gyfanrwydd.

Mwslemiaid yw’r mwyafrif sy’n byw yno ac mae’r ymosodiad wedi arwain at densiynau cynyddol yn India, ble mae’r mwyafrif yn Hindŵiaid.