Mae timau achub wedi bod yn ceisio mynd â bwyd a diod i gannoedd o bobl ar ynysoedd y Philipîn sydd wedi eu dal yn gaeth oherwydd llifogydd yn dilyn yr ail gorwynt glaw o fewn wythnos.

Mae o leia 55 o bobl wedi eu lladd.

Roedd teiffŵn Nalgae wedi lladd o leia tri o bobl ddoe. Cafodd o leia 52 eu lladd ac mae 30 yn dal ar goll yn dilyn teiffŵn Nesat ddydd Gwener. Roedd y corwynt wedi dinistrio amddiffynfeydd môr ar hyd Bae Manila.

Mae tua 200,000 o bobol mewn gwersylloedd tros dro ac mae hofrenyddion y llu awyr wedi bod yn ceisio cludo bwyd a dŵr i’r rhai sy’n gaeth ar ben toeau eu tai.

Mae canol a de-ddwyrain Asia i gyd wedi bod yn diodde’ o stormydd gwael yn ystod y monsŵn, gan achosi’r llifogydd gwaetha’ yn yr ardal ers 30 mlynedd.