Mae miloedd o bobol yn galw ar Pedro Sanchez, prif weinidog sosialaidd Sbaen, i gamu o’r neilltu.
Daethon nhw ynghyd yn y Plaza de Colon yng nghanol dinas Madrid yn chwifio baneri a chanu caneuon.
Y Blaid Boblogaidd a phlaid y Trigolion oedd wedi trefnu’r rali sydd wedi cael cefnogaeth y pleidiau bychain hefyd.
Maen nhw’n mynnu y dylai ymddiswyddo am gynnal trafodaethau gyda’r rhai sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.
Fe fydd 12 o gefnogwyr annibyniaeth yn mynd gerbron llys ddydd Mawrth am eu rhan yn yr ymgyrch annibyniaeth aflwyddiannus yn 2017.
Ymgyrch hirdymor
Roedd Mariano Rajoy, ei ragflaenydd, dan gryn bwysau i ildio i ddymuniadau ymgyrchwyr tros annibyniaeth i Gatalwnia hefyd.
Ond fe ddaeth Pedro Sanchez i rym fis Mehefin y llynedd, gan addo tawelu’r gwrthdaro rhwng yr ymgyrchwyr a’r awdurdodau ym Madrid.
Mae e wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Quim Torra, arweinydd Catalwnia, a’i gynrychiolwyr.
Roedd e’n dweud ei fod yn barod i roi Siarter newydd i Gatalwnia yn nodi faint o feysydd fydd yn cael eu datganoli iddyn nhw, ond fe ddaeth y trafodaethau i ben ddydd Gwener (Chwefror 8) pan ddaeth i’r amlwg na fyddai’r ymgyrch tros annibyniaeth yn dod i ben.
Fe fydd angen cefnogaeth ymgyrchwyr tros annibyniaeth ar Pedro Sanchez ar gyfer ei Gyllideb a phe bai’n aflwyddiannus, fe allai wynebu etholiad cyffredinol cynnar.