Mae dynes o wledydd Prydain wedi cael ei dedfrydu i chwe mis o garchar yn Indonesia ar ôl taro swyddog mewnfudo.

Mae’n debyg bod Auj-e Taqaddas wedi ymosod ar y swyddog ym maes awyr Bali ar ôl iddi fethu â chyrraedd ei hawyren oherwydd bod ei fisa wedi’i ohirio.

Yn ôl fideo o’r digwyddiad, mae modd gweld y ddynes 43 oed yn colli ei thymer ar ôl iddi gael ei gofyn i dalu dirwy o £3,500 am aros yn y wlad a cholli ei thaith adref.

Cafodd ei harestio ar gyhuddiad o ymddwyn yn dreisgar tuag at swyddog y llywodraeth.

Yn ystod yr achos llys, a gychwynnodd ym mis Rhagfyr y llynedd, fe blediodd Auj-e Taqaddas yn ddieuog gan ddweud bod y fideo wedi cael ei olygu.