Bydd y Pab Francis yn dechrau ar ei ymweliad hanesyddol â’r Emiradau Arabaidd Unedig trwy gyfarfod ag arweinwyr gwleidyddol a chrefyddol y ffederasiwn.
Mae disgwyl i bennaeth yr Eglwys Gatholig hefyd draddodi anerchiad sy’n cael ei ystyried yn safiad tros oddefgarwch crefyddol mewn gwlad Islamaidd sy’n enwog am gyfyngu ar ryddid yr unigolyn.
Ond bydd uchafbwynt y daith ddydd Mawrth (Chwefror 5), pan mae disgwyl iddo gynnal cyfarfod Cristnogol lle mae disgwyl i tua 135,000 o bobol fod yn bresennol.
Fe gyrhaeddodd y Pab ddinas Abu Dhabi dros y Sul pan gafodd ei groesawu gan Sheikh Mohammed bin Zayed Nahyan, tywysog coronog prifddinas yr Emiradau a phennaeth y lluoedd arfog.
Cyn gadael y Fatican, roedd y Pab wedi gwneud apêl am atal y rhyfel yn yr Yemen er mwyn sicrhau bod pobol y wlad yn medru derbyn bwyd a meddyginiaeth.
Mae’r Emiradau yn un o brif gynghreiriaid Sawdi Arabia yn y rhyfel.