Mae Nawaz Sharif, cyn-Brif Weinidog Pacistan, yn yr ysbyty ac mae’r awdurdodau’n dweud bod ei fywyd mewn perygl.

Fe gafodd ei symud o’r carchar i ysbyty’r llywodraeth yn Lahore yn dilyn problemau gyda’i galon.

Mae e’n treulio saith mlynedd dan glo am dwyll, ac fe gafodd ei ddiswyddo gan y Goruchaf Lys fis Gorffennaf y llynedd.

Mae’n gwadu iddo fe a’i deulu wneud unrhyw beth o’i le.