Mae disgwyl i Tsieina gyfyngu ar nifer y dringwyr sy’n mentro i gopa mynydd Everest o’r gogledd eleni, wrth iddyn nhw ymgymryd â chynlluniau i glirio rhan o fynydd uchaf y byd.

Bydd cyfanswm y dringwyr sy’n mentro i’r copa bellach yn cael ei dorri i lai na 300, yn ôl adroddiadau ar y cyfryngau yn Tsieina, gyda’r tymor ar gyfer dringo yn cael ei gyfyngu i’r gwanwyn.

Bydd y gwaith clirio yn cynnwys symud cyrff y dringwyr  a fu farw yn uwch na 8,000 metr (26,246 troedfedd).

Tua 60,000 bob blwyddyn

Mae rhan ogleddol Everest yn nhiriogaeth Tsieina, ac mae tua 60,000 o ddringwyr a thywyswyr yn mentro dringo’r rhan honno bob blwyddyn.

Mae Tsieina eisoes wedi sefydlu gorsafoedd i ddosbarthu ac ailgylchu sbwriel o’r mynydd, sy’n cynnwys caniau, bagiau plastig, offer coginio, pebyll a thanciau aer.

Ar ochr Nepal o’r mynydd, mae mynyddwyr eisoes wedi cychwyn anfon bagiau sbwriel anferth gyda dringwyr yn ystod tymor dringo’r gwanwyn er mwyn casglu unrhyw wastraff sydd ganddyn nhw. Mae’r bagiau hynny wedyn yn cael eu casglu gan hofrenyddion.

Yn 2017, llwyddodd 648 o bobol i gyrraedd copa Everest, gan gynnwys 202 o’r ochr ogleddol, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Bu farw chwech o bobol yn ystod y flwyddyn honno hefyd, gan gynnwys dau o gyfeiriad y gogledd.

Mae Tsieina yn cyfeirio at y mynydd yn ôl ei enw Tibetaidd, Mynydd Qomolangma.