Mae cais am fechnïaeth i gyn-gadeirydd Nissan, Carlos Ghosn, wedi’i wrthod gan lys yn Japan.

Fe gafodd y gŵr busnes 64 oed ei arestio ar Dachwedd 19, ac mae wedi’i gyhuddo o ffugio adroddiadau ariannol yn ymwneud â’i gyflog.

Mae hefyd yn cael ei gyhuddo o dwyllo trwy ganiatau i Nissan ysgwyddo colledion ariannol a gwneud taliadau i ddyn busnes o Sawdi Arabia.

Fe ddaeth galwad gan ei gyfreithwyr iddo gael ei ryddhau yr wythnos ddiwethaf.

Ond doedd neb yn disgwyl mewn gwirionedd i Lys Ardal Tokyo ddod i benderfyniad gwahanol na hwnnw y daeth iddo heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 15).

Fe allai fod yn fisoedd eto cyn y bydd achos Carlos Ghosn yn mynd gerbron llys.