Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi’i chau’n rhannol ar ôl i’r Democratiaid wrthod rhoi pum biliwn o ddoleri i’r Arlywydd Donald Trump er mwyn dechrau codi’r wal ddadleuol ar y ffin gyda Mecsico.
Fe fu trafodaethau rhwng yr is-Arlywydd Mike Pence, ymgynghorydd yr Arlwydd Jared Kushner a phennaeth cyllideb y llywodraeth Mick Mulvaney yn y Capitol ond roedden nhw’n aflwyddiannus.
Yn sgil hynny, daeth gorchymyn gan Mick Mulvaney i gau rhai o adrannau’r llywodraeth yn rhannol ac yn raddol.
Fe fydd trafodaethau gwleidyddol yn parhau heddiw mewn ymgais i ddatrys y sefyllfa sy’n effeithio ar nifer o adrannau’r llywodraeth a 800,000 o weithwyr.
Tra bydd 420,000 o weithwyr yn gweithio dros gyfnod y Nadolig, mae 380,000 wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd gwyliau di-dâl.
Beirniadu Donald Trump
“Yn hytrach nag anrhydeddu ei gyfrifoldeb i bobol America, mae’r Arlywydd Trump wedi pwdu ac wedi argyhoeddi Gweriniaethwyr y Tŷ i wthio ein cenedl i mewn i ‘Trump Shutdown’ dinistriol yng nghanol tymor y gwyliau,” meddai Nancy Pelosi, Arweinydd y Tŷ, a Chuck Schumer, Arweinydd y Senedd, mewn datganiad.
Mae nifer o seneddwyr eraill wedi mynegi eu siom.
Cynlluniau ar gyfer y wal
Wrth geisio llwyddiant i’w gynlluniau, dywedodd Donald Trump yn ystod y trafodaethau y byddai’n fodlon derbyn bariau dur pigog yn hytrach na wal.
Ond doedd dim modd dod i gytundeb.
Ddechrau’r wythnos, fe wnaeth seneddwyr gymeradwyo rhoi 1.3 biliwn o ddoleri ar gyfer amddiffyn ffiniau’r wlad, ond nid ar gyfer y wal.
Serch hynny, aeth y Gweriniaethwyr yn eu blaenau ddydd Iau i gymeradwyo’r cynllun drwy glustnodi 5.7 biliwn o ddoleri.
Ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr), penderfynodd y Senedd nad oedd gan y Gweriniaethwyr ddigon o bleidleisiau er mwyn pasio deddfwriaeth.