Mae dau ddyn o Ganada yn y ddalfa yn Tsieina ar amheuaeth o “beryglu diogelwch cenedlaethol”.

Daw’r cadarnhad bod Michael Spavor  a Michael Kovrig yn y ddalfa, gan lefarydd ar ran Gweinyddiaeth Tramor Tsieina.

Entrepreneur yw Michael Spavor sydd â chysylltiadau gyda Gogledd Corea, tra bod Michael Kovrig yn gyn-ddiplomydd.

Mae llawer yn tybio mai dial mae Tsieina gan fod un o uwch swyddogion Huawei – cwmni ffonau o Tsieina – yn y ddalfa yng Nghanada.

Mae’r Unol Daleithiau wedi cyhuddo Huawei o wneud busnes ag Iran tra bod sancsiynau mewn grym, ac mae’n bur debyg bod Canada yn bwriadu estraddodi Meng Wanzhou i’w cymydog.

Dyw Tsieina ddim wedi gwadu bod arestiad y ddau ddyn o Ganada yn gysylltiedig â’r anghydfod yma.