Mae’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio ar hyn o bryd fel “ymosodiad brawychol” yn Iran, wedi lladd tri o bobol ac anafu nifer o bobol eraill.

Fe glywyd nifer o ffrwydradau a sŵn saethu yn ninas borthladd Chabahar yn ne-ddwyrain y wlad ben bore heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 6).

Mae Chabahar ar y ffin rhwng Pacistan ac Iran, ac mae’n gartref i borthladd newydd sbon.

Ar hyn o bryd, dyw awdurdodau Iran ddim yn rhoi’r bai ar neb am yr ymosodiad, a does yr un grwp o wrthryfelwyr wedi hawlio cyfrifoldeb.