Mae llys milwrol sy’n cael ei reoli gan Hamas wedi dedfrydu chwech o Balestiniaid i farwolaeth yn dilyn honiadau eu bod nhw wedi cydweithio ag Israel.

Mae’r llys yn Gaza hefyd wedi dedfrydu wyth person arall i gyfnodau yn y carchar.

Dyma’r nifer fwyaf o ddedfrydau sydd wedi cael eu cyflwyno mewn diwrnod yn y rhanbarth ers i’r grŵp milwrol ddod i rym yno yn 2007.

Ers y flwyddyn honno, mae Hamas wedi dienyddio 28 o Balestiniaid, gyda’r mwyafrif o gyhuddiadau yn eu herbyn yn ymwneud â chydweithio â’r awdurdodau yn Israel.

Mae’r dedfrydau diweddaraf yn gysylltiedig â chyrch cudd methiannus gan Israel fis diwethaf, lle cafodd saith o ymladdwyr Palestinaidd ac un swyddog Israelaidd eu lladd.