Mae swyddogion o NATO ar ymweliad â Macedonia yr wythnos hon wrth i lywodraeth y wlad geisio did un aelod o’r corff y flwyddyn nesaf.

Mae’r swyddogion yn bwriadu cynnal trafodaethau gydag aelodau o adran amddiffyn y wlad, yn ogystal â bod yn bresennol mewn arddangosfeydd milwrol yn y brifddinas, Skopje.

Mae Llywodraeth Macedonia yn bwriadu newid enw’r wlad i Ogledd Macedonia er mwyn dod a’r ffrae rhyngddi a gwlad Groeg i ben.

Mae gwlad Groeg wedi dweud na fydd gwrthwynebiad ganddyn nhw ynglŷn ag aelodaeth Macedonia o NATO unwaith y bydd yr enw wedi’i newid.

Dywed llefarydd ar ran NATO fod y wlad wedi gwneud “cynnydd sylweddol” o ran dod yn aelod o’r corff rhyngwladol.