Mae prif weithredwr banc UBS yn y Swistir wedi ymddiswyddo ar ôl i weithiwr golli £1.5 biliwn i’r cwmni.

Dywedodd y banc y bydd ei bennaeth yn Ewrop, Sergio Ermotti, yn cymryd yr awenau dros dro nes eu bod nhw’n dod o hyd i olynydd i Oswald Gruebel.

Mewn datganiad dywedodd pennaeth bwrdd UBS, Kaspar Villiger, fod Oswald Gruebel wedi ymddiswyddo ar egwyddor ar ôl i’r arian cael ei golli.

Mae dyn yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o fasnachu heb awdurdod y banc.

Cafodd Kweku Adoboli, oedd yn gweithio o Lundain, ai arestio’r wythnos diwethaf a’i gyhuddo o dwyll a chyfrifeg gyfeiliornus.

Dywedodd Kaspar Villiger fod Oswald Gruebel wedi llwyddo yn ei swydd ac yn “camu o’r neilltu gan adael y banc ar seiliau ariannol cryf iawn”.