Mae llywodraeth America wedi dyfarnu cytundeb gwerth $145m i gwmni o Tecsas godi chwe milltir o wal ar hyd y ffin â Mexico yn nyffryn Rio Grande.

Fe fydd y cwmni, SLSCO, yn cychwyn ar y gwaith o godi’r wal goncrit 18 troedfedd o uchder ym mis Chwefror.

Dyma fydd cam cyntaf yr arlywydd, Donald Trump, i godi rhwystrau yn nyffryn Rio Grande, y lle prysuaf o ran croesi anghyfreithlon rhwng America a Mecsico.

Mae’r llywodraeth eisoes wedi cwblhau’r gwaith o godi ffens 30 troedfedd o uchder ar hyd dwy filltir o’r ffin rhwng y ddwy wlad yn Califfornia.