Mae awyren, gyda 189 o deithwyr ar ei bwrdd, wedi plymio i’r môr yn fuan ar ôl iddi ddechrau ar ei thaith o brifddinas Indonesia, Jakarta.
Roedd yr awyren Lion Air ar daith awr a deng munud o Jakarta i Pangkal Pinang ger ynys Sumatra.
Bu’r digwyddiad am tua 6:20yb, gyda’r awyren yn disgyn 5,200 troedfedd o’r awyr 13 munud ar ôl gadael y maes awyr.
Ymhlith y meirw oedd un plentyn, dau faban ac wyth aelod o staff.
Mae bron 300 o bobol, sy’n cynnwys milwyr, yr heddlu a physgotwyr lleol, yn rhan o’r ymgyrch i chwilio am unrhyw oroeswyr neu gyrff.
Hyd yn hyn, dydyn nhw ddim wedi dod o hyd i ddim, heblaw am gardiau adnabod, eiddo’r teithwyr a gweddillion yr awyren.
Yn ôl adroddiadau, roedd teuluoedd y rheiny a oedd ar yr awyren yn aros am eu hanwyliaid yn y maes awyr yn Pangkal Pinang pan dorrodd y newyddion am y ddamwain.