Mae grŵp jihadaidd ym Mhalesteina wedi cytuno i roi’r gorau i danio rocedi at Israel.

Daw cyhoeddiad Daoud Shehab ar ran Jihad Islamaidd Palesteina yn dilyn ymdrechion i gymodi sydd wedi’u harwain gan yr Aifft.

Mae lluoedd Iran yn Syria yn cael eu cyhuddo o ddylanwadu ar y grŵp i gyflawni’r ymosodiadau mwyaf yn ardal Gaza ers misoedd.

Daeth yr ymosodiad diweddaraf ar ôl i bedwar o Balestiniaid farw wrth brotestio ar lain Gaza.