Mae dau o bobol wedi cael eu lladd a 18 wedi mynd yn sownd ar ôl i graig ffrwydro mewn pwll glo yn Tsieina.

Fe ddigwyddodd y trychineb am oddeutu 11 o’r gloch nos Sadwrn yn nhalaith Shandong.

Cafodd twnnel dŵr ei ddifrodi, ac fe gafodd dau o bobol eu lladd ar ôl cael eu taro gan graig a gwympodd.

Roedd mwy na 300 o bobol yn gweithio yn y pwll adeg y ffrwydrad, ond cafodd y rhan fwyaf eu hachub gan oddeutu 140 o weithwyr.

Mae ymchwiliad ar y gweill.