Mae Alexei Navalny wedi cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl cyfnod o 50 o ddiwrnodau dan glo.

Cafodd arweinydd gwrthblaid Rwsia ei garcharu am ei ran mewn protestiadau anghyfreithlon yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Vladimir Putin.

Cafodd ei ddedfrydu’n wreiddiol i 30 diwrnod dan glo am drefnu protest ym mis Awst, ond fe gafodd ei ryddhau a’i ailarestio ar unwaith, a’i ddedfrydu i 20 diwrnod yn y carchar.

Roedd y ddwy brotest yn erbyn cynlluniau’r llywodraeth i godi’r oedran codi pensiwn gwladol, sydd bellach wedi dod yn gyfraith gwlad.

Ar ôl cael ei ryddhau, dywedodd Alexei Navalny fod cyflwr y llywodraeth “wedi dirywio – o fethiannau mewn cudd-wybodaeth o dramor i fethiannau’r diwydiant gofod”.