Mae heddlu Japan yn ymchwilio i farwolaeth un o swyddogion sŵ a gafodd ei ladd mewn ymosodiad gan deigr gwyn.

Fe gafodd Akira Furusho, 40, ei ganfod yn gwaedu o’i wddf ac wedi disgyn i mewn i gawell teigr ym Mharc Sŵ Hirakawa yn Kagoshima, de Japan.

Mae rheolwyr y sŵ yn credu bod teigr wedi ymosod ar Akira Furusho wrth iddo geisio symud teigr gwrywaidd o’i gawell arddangos i’w gawell nos.

Mae’r gath fawr yn un o bedwar teigr gwyn prin yn y sŵ.